Swyddfa ICO Cymru

Click here to view this page in English

Ynglŷn â’r ICO – Cymru

Mae swyddfa Cymru wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae’n gyfrifol am:

  • ddarparu gwasanaeth cyngor ac ymholiadau cyffredinol i unigolion, sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru;
  • ymchwilio i gwynion am ryddid gwybodaeth sy’n ymwneud ag awdurdodau cyhoeddus Cymru;
  • gwella ymwybyddiaeth leol am hawliau gwybodaeth a hybu arferion da;
  • ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ac eraill sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod polisïau a deddfau newydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a reoleiddir gennym;
  • sicrhau bod buddion unigolion, sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru’n cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau a chanllawiau’r ICO; ac
  • ymateb i anghenion lleol drwy ddarparu gwasanaeth targededig a phriodol (mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg).

Pwy ydym ni

 /upload/images/content/annejones.jpg

Anne Jones, Comisiynydd Cynorthwyol Cymru, sy'n arwain ein swyddfa yng Nghymru. Ymunodd Anne â’r ICO yn 2003, gyda chefndir mewn gwaith llyfrgell a gwybodaeth a hefyd brofiad eang mewn TG. Mae ganddi radd anrhydedd mewn Ffrangeg ac Astudiaethau Gwybodaeth o Goleg Prifysgol Aberystwyth, a gradd MSc mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth o Brifysgol Bryste.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Arweiniad ar gael yn Gymraeg
Cynllun Iaith Gymraeg 
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi paratoi Cynllun laith Gymraeg sydd yn gosod allan sut y byddwn yn darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg i'r cyhoedd yng Nghymru. Paratowyd y Cynllun gyda chymorth a chymeradwyaeth Bwrdd yr laith Gymraeg a daeth i rym ar 21 Mawrth 2007.

Rhannu Gwybodaeth yn Sector Cyhoeddus Cymru: ffordd drwy’r ddrysfa? Llandrindod, 23 Ebrill 2008

Cyflwyniadau o gyfarfod llawn a sesiynau gweithdy’r gynhadledd  

Arweiniad Cymru-benodol

Diogelwch Data - Nodyn o Gyfarwyddyd Technegol: Mynediad i wyboadaeth am ddisgyblion sy'n cael ei dal gan ysgolion yng Nghymru

Manylion cysylltu ICO Cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL

Ffôn: 029 2044 8044
Ffacs: 029 2044 8045
Ebost: cymru@ico.gsi.gov.uk


Edrych ar Fap Mwy

Related downloads


View the document library